Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
12 Mai 2014
CLA396 – Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio
Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae Adran 54A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn galluogi
Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn sy’n gohirio’r
dyddiad y dylid llunio’r rhestrau ardrethu annomestig newydd
yng Nghymru o 1 Ebrill 2015 i ddyddiad a bennir ynddo. Mae’r
Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2017 at ddibenion adran 54A.
CLA397 – Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio)
(Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau
Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2014. Mae Atodlen 2 yn rhestru
dyfroedd wyneb yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru yn disgwyl y
bydd nifer fawr o bobl yn ymdrochi ynddynt. Mae Llyn Padarn a
Dwyrain y Rhyl wedi’u hychwanegu at y rhestr o ddyfroedd
wyneb a nodir yn Atodlen 2
CLA398 - Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd)
(Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
O 1 Hydref 2010 ymlaen, trosglwyddwyd y polisi maeth o’r
Asiantaeth Safonau bwyd i Weinidogion Cymru yng Nghymru (ac
i’r Adran Iechyd yn Lloegr). Gan adlewyrchu hynny,
mae’r Rheoliadau hyn yn trosglwyddo swyddogaethau maeth mewn
perthynas â Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000, Rheoliadau
Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru)
2007, Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 a
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007
o’r Asiantaeth Safonau Bwyd i Weinidogion Cymru.
CLA399 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd
Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl)
(Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau’r
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi
Tâl) (Cymru) 2007 sy’n darparu ar gyfer talu treuliau
teithio a pheidio â chodi taliadau’r Gwasanaeth Iechyd
Gwladol drwy gyfeirio at derfynau incwm a chyfalaf.
Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r terfyn cyfalaf i
£24,000, yn weithredol o 20 Mai 2014.